Sut ydw i’n gweld Fy Nghofnod Meddygol?
I weld eich cofnodion meddygol codedig manwl:
- Yn gyntaf, bydd angen i chi gysylltu â’ch meddygfa i wneud cais am fynediad at eich cofnod meddygol.Sylwer – Bydd angen prosesu eich cais, felly ni fydd eich cofnod ar gael ar unwaith.
- Mewngofnodwch i wefan Fy Iechyd Ar-lein yn y ffordd arferol.
- Dewiswch Fy Nghofnod Meddygol:
- Y tro cyntaf y byddwch yn clicio ar Fy Nghofnod Meddygol, bydd gofyn i chi sefydlu manylion diogelwch, gan gynnwys rhif PIN pedwar digid, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin i gwblhau hyn. Ar ôl sefydlu eich manylion diogelwch.
- Bydd sgrin i roi’ch PIN Diogelwch yn ymddangos, rhowch y PIN pedwar digid rydych chi wedi’i sefydlu, a chliciwch Cyflwyno.
- Bydd Fy Nghofnod Meddygol yn ymddangos, cliciwch ar y categorïau sydd ar gael i weld eich cofnodion.
- Bydd y wybodaeth sy’n ymddangos yma yn dibynnu ar beth benderfynodd eich meddygfa.
Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.